skip navigation

Y fframwaith meddwl (accessible version)

Mae hwn yn fframwaith meddwl adnabyddus. Mae'n gymorth i feddwl am destun, mater neu broblem a rhannu syniadau ag eraill. Hawlfraint - Belle Wallace 2004

Cam 1. Yn gyntaf, casglwch y wybodaeth sydd gennych a'i threfnu - gofynnwch "Beth rydw i'n ei wybod am hyn?"

Cam 2: Diffiniwch y dasg sydd gennych i'w chwblhau.

Cam 3: Gwnewch restr o syniadau yn ymwneud a'r testun neu'r cwestiwn. Sawl syniad gallwch chi feddwl amdanynt?

Cam 4: Penderfynwch pa syniad sydd orau. Cofnodwch y syniad hwn.

Cam 5: Cynlluniwch i weithredu ar y syniad gorau.

Cam 6: Ar ol gweithredu'r syniad, mae angen ei werthuso. Gofynnwch beth oedd yn llwyddiant a beth gallwch chi fod wedi ei wneud yn well/yn wahanol.

Cam 7: Rhannwch y syniad a rhywun arall - dywedwch beth rydych wedi ei wneud wrth rywun arall.

Cam 8: Yn olaf, gofynnwch i chi'ch hun beth rydych wedi ei ddysgu o'r profiad hwn. Mae'n gyfle da i ofyn i chi'ch hun pa sgil(-iau) rydych wedi eu defnyddio ac ym mha sefyllfa arall y gallwch ddefnyddio'r sgil(-iau) yma.

Ar ol gwneud hyn, rydych wedi gorffen yr aseiniad.

Y diwedd.

Register

Did you know: if you register you can save and share your thinking guides?