skip navigation

Dyfodol tebygol, posibl, gorau (accessible version)

Pwrpas y trefnydd meddwl hwn yw eich helpu i feddwl sut gall sefyllfa neu fater ddatblygu yn y dyfodol.

Cam 1: Yn gyntaf, mae angen i chi ddiffinio'r sefyllfa neu'r mater rydych chi am ymchwilio iddi/iddo.

Cam 2: Wrth feddwl ymlaen, beth sydd yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol o ran y sefyllfa neu'r mater dan sylw?

Cam 3: Beth all ddigwydd yn y dyfodol o ran y sefyllfa neu'r mater dan sylw - hynny yw beth yw'r posibliadau? Ystyriwch y posibliadau hyn yn fanwl.

Cam 4: Beth yw'r posibilrwydd gorau ar gyfer y dyfodol? Pam rydych chi'n dweud hyn? Ystyriwch beth yw'r cysylltiadau rhwng y dyfodol tebygol, y posibliadau a'r dyfodol gorau. Pa mor debyg ac annhebyg yw'r sefyllfaoedd hyn?

Ar ol gwneud hyn, rydych wedi gorffen yr aseiniad.

Y diwedd.

Register

Did you know: if you register you can save and share your thinking guides?